Swyddogion gwirfoddol newydd wedi ymuno â rhengoedd Heddlu Gwent
16eg Rhagfyr 2021
Yn ddiweddar gwnaethom groesawu 16 swyddog heddlu gwirfoddol newydd i rengoedd Heddlu Gwent.
Mae swyddogion gwirfoddol yn rhoi o'u hamser i amddiffyn ein trigolion a rhaid edmygu'r gwasanaeth ymroddedig maen nhw'n ei ddarparu. Maen nhw'n darparu cadernid ychwanegol i gefnogi'r heddlu wrth iddynt amddiffyn a gwasanaethu ein cymunedau.
Dymunaf bob hwyl iddynt gyda'u swyddi newydd.