Swyddogion Gwent yn cael eu cydnabod yn y gwobrau dewrder cenedlaethol
Cafodd swyddogion Heddlu Gwent a geisiodd achub dyn o gar ar dân eu cydnabod yng Ngwobrau Dewrder Cenedlaethol yr Heddlu 2025.
Roedd cwnstabliaid heddlu Ryan Blair-Baggs, Robbie Higgins ac Abigail Jenkins-Murphy, a Chwnstabl Gwirfoddol Mark Lee, yn chwilio am ddyn 63 oed a oedd ar goll o ardal Cwmbrân ddydd Gwener 10 Tachwedd 2023. Gwnaethant ddioddef anafiadau, gan gynnwys llosgiadau, wrth geisio achub y dyn a fu farw'n ddiweddarach yn yr ysbyty.
Mae Gwobrau Dewrder Cenedlaethol yr Heddlu, sy'n cael eu trefnu gan Ffederasiwn yr Heddlu, yn cydnabod swyddogion sydd wedi dangos dewrder eithriadol.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roedd hwn yn achos trasig, ac estynnaf fy nghydymdeimlad i deulu a ffrindiau'r dyn a fu farw.
“Dangosodd y swyddogion yn yr achos ddewrder eithriadol, gan roi eu bywydau eu hunain mewn perygl wrth geisio achub ei fywyd. Hoffwn ddiolch i gwnstabliaid heddlu Blair-Baggs, Higgins a Jenkins-Murphy, a Chwnstabl Gwirfoddol Lee ar ran pobl Gwent am eu gwasanaeth, ac am bopeth maen nhw'n ei wneud bob dydd i'n cadw ni'n ddiogel.”