Swyddogion Cymorth Cymunedol newydd yn dechrau ar eu gyrfa
13eg Mai 2022
Yr wythnos hon, gwnaethom groesawu 25 o swyddogion cymorth cymunedol newydd i Heddlu Gwent.
Mae'r swyddogion newydd hyn wedi cwblhau eu hyfforddiant a byddant yn ymuno â thimau plismona cymdogaeth ledled y rhanbarth. Mae eu penodiad yn rhan o'n cynllun parhaus i gynyddu nifer swyddogion cymorth cymunedol i 196 yn ystod y tair blynedd nesaf.
Mae'r swyddogion newydd hyn yn gaffaeliad i Heddlu Gwent, a dymunaf bob hwyl iddynt yn eu gyrfaoedd newydd.