Swyddogion cefnogi cymuned yr heddlu newydd yn ymuno â'r rhengoedd

6ed Mai 2025

Mae'r dosbarth diweddaraf o 16 o Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu wedi cwblhau eu hyfforddiant a byddant yn ymuno â thimau plismona cymdogaeth ledled Gwent.

Bydd y swyddogion cefnogi cymuned newydd yn ymuno â thimau ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen i barhau i ddysgu, ac i ddatblygu eu sgiliau a’u harbenigedd ymhellach.

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd â'r swyddogion cefnogi cymuned newydd, eu teuluoedd, a chydweithwyr yn Heddlu Gwent ar gyfer seremoni gorffen hyfforddiant ffurfiol, sy'n nodi diwedd eu cyfnod hyfforddiant cyntaf.

Dywedodd: “Mae bob amser yn fraint ymuno â swyddogion a'u teuluoedd i nodi diwedd eu hyfforddiant. Maen nhw wedi gweithio'n galed a gallant edrych ymlaen at ddechrau gyrfa sy'n amrywiol iawn ac yn rhoi llawer o foddhad.

“Mae Prif Gwnstabl Mark Hobrough a mi wedi ymroi i gael mwy o bresenoldeb heddlu gweladwy yng Ngwent a bydd y swyddogion cefnogi cymuned yma'n rhoi rhywfaint o gadernid ychwanegol i'n timau plismona cymdogaeth ledled Gwent. Rwy'n gobeithio y bydd ein preswylwyr yn rhoi croeso mawr iddyn nhw yn eu cymunedau."