Swyddog-fyfyrwyr yn dathlu graddio
18fed Rhagfyr 2023
Yr wythnos yma dathlodd 18 o swyddog-fyfyrwyr eu bod wedi graddio a chwblhau eu hyfforddiant academaidd.
Byddant yn ymuno â thimau plismona ledled pum sir Gwent yn awr.
Mae'r fframwaith cymwysterau addysgol plismona yn rhoi cyfle i ymgeiswyr astudio ar gyfer cymhwyster academaidd wrth gyflawni eu hyfforddiant heddlu. Mae hyn yn galluogi swyddogion heddlu i godi eu safonau proffesiynol yn wyneb natur newidiol trosedd ac yn caniatáu i recriwtiaid ddysgu wrth ennill cyflog.