Swyddfa’r Comisiynydd yn craffu ar ffilmiau o gamerâu a wisgir ar y corff

19eg Medi 2025

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, wedi cynnal ei chyfarfod chwarterol i edrych ar y ffordd y mae Heddlu Gwent yn defnyddio grym wrth gadw pobl dan amheuaeth, a’r ffordd y caiff ei bwerau stopio a chwilio eu defnyddio.  

Mae panel craffu ar gyfreithlondeb y Comisiynydd yn dwyn ynghyd aelodau o swyddfa’r Comisiynydd, grŵp cynghori annibynnol Heddlu Gwent, uwch swyddogion yr heddlu, a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio i’r gwasanaeth troseddau ieuenctid, i edrych ar ffilmiau o gamerâu a wisgir ar y corff. Mae’r panel yn edrych ar ddigwyddiadau lle defnyddiwyd grym, yn cynnwys gefynnu rhywun yn wirfoddol a defnyddio Taser, neu bwerau stopio a chwilio. 

Yn ystod y sesiwn, aeth y panel ati i:

  • Edrych ar sawl digwyddiad lle roedd problemau iechyd meddwl yn bresennol. Cafodd swyddogion eu canmol gan y panel am y ffordd sensitif y gwnaethant ymdrin â sefyllfaoedd a darparwyd adborth cadarnhaol. Nodwyd cyfleoedd i’r heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol ddysgu ar y cyd ac mae cyfarfod yn cael ei drefnu i fwrw ymlaen â hyn.
  • Gwylio sampl fach o ffilmiau o gamerâu a wisgir ar y corff a oedd yn dangos digwyddiadau stopio a chwilio i sicrhau eu bod yn angenrheidiol ac yn gymesur.
  • Nodi rhai pwyntiau dysgu bach a fydd yn cael eu bwydo’n ôl i swyddogion.


Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd:  “Mae’r panel yn darparu haen graffu annibynnol, gan nodi enghreifftiau o waith da, ond hefyd ddigwyddiadau lle mae angen dysgu pellach. 

“Mae’r holl gyfleoedd i ddysgu a gwella yn cael eu bwydo’n ôl i uwch swyddogion yr heddlu ac maen nhw’n helpu i sicrhau bod prosesau’n cael eu cynnal mewn ffordd sy’n agored, yn onest ac yn dryloyw. 

“Mae’n ffordd arall mae fy swyddfa yn mynd ati i graffu ar Heddlu Gwent yn annibynnol er mwyn sicrhau bod yr heddlu yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n trigolion.”

Gallwch weld adroddiadau o gyfarfodydd y panel ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.