Swyddfa'r Comisiynydd yn craffu ar ddelweddau camerâu corff Heddlu Gwent

4ydd Chwefror 2025

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi cynnal ei phanel craffu a gynhelir bob tri mis i archwilio pwerau stopio a chwilio a defnyddio grym Heddlu Gwent.

Mae Panel Cyfreithlondeb a Chraffu'r Comisiynydd yn dod ag aelodau o Swyddfa'r Comisiynydd, Grŵp Cynghori Annibynnol Heddlu Gwent, uwch swyddogion yr heddlu a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio i'r gwasanaeth troseddau ieuenctid at ei gilydd i adolygu delweddau camerâu corff swyddogion o ddigwyddiadau lle defnyddiwyd grym, neu ddigwyddiadau stopio a chwilio.

Edrychodd aelodau'r Panel ar hapsampl o ddigwyddiadau diweddar gan gynnwys stopio a chwilio gyrrwr lle y credwyd bod cyffuriau yn y cerbyd, digwyddiad o gam-drin domestig, a sefyllfa lle defnyddiodd swyddogion taser. Roedd y sesiwn yn canolbwyntio'n bennaf ar ddigwyddiadau a oedd yn ymwneud â phlant a phobl ifanc a rhoddwyd clod i swyddogion am eu technegau lliniaru i gadw sefyllfaoedd dan reolaeth. Nodwyd nifer o bwyntiau dysgu a bydd y rhain yn cael eu rhannu gyda'r swyddogion dan sylw. 

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae'r Panel yn enghraifft dda o sut mae fy swyddfa'n gweithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Gwent i adolygu'r defnydd o stopio a chwilio, a defnyddio grym, i sicrhau bod y pwerau yma'n cael eu defnyddio'n deg ac yn effeithiol.

“Mae'n rhoi haen annibynnol o graffu ac yn helpu i adnabod enghreifftiau o waith da, ac mae hefyd yn adnabod digwyddiadau lle mae angen dysgu mwy. Mae pob cyfle i ddysgu a gwella yn cael ei rannu gydag uwch swyddogion yr heddlu a gan fod y Panel wedi cael ei gyflwyno yn 2013 mae fy nhîm wedi gweld gwelliant go iawn yn y rhyngweithio rhwng yr heddlu a'r cyhoedd.

"Mae'n un o'r ffyrdd rwyf yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar ran y cyhoedd, ac mae'n helpu i sicrhau bod prosesau'n cael eu dilyn mewn ffordd deg, gonest a thryloyw."

Gallwch weld adroddiadau o'r cyfarfodydd panel ar wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.