Swyddfa'r Comisiynydd yn craffu ar ddelweddau camerâu corff Heddlu Gwent

24ain Hydref 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi cynnal ei phanel craffu a gynhelir bob tri mis i archwilio pwerau stopio a chwilio a defnyddio grym Heddlu Gwent.

Mae Panel Cyfreithlondeb a Chraffu'r Comisiynydd yn dod ag aelodau o Swyddfa'r Comisiynydd, Grŵp Cynghori Annibynnol Heddlu Gwent, uwch swyddogion yr heddlu a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio i'r gwasanaeth troseddau ieuenctid at ei gilydd i adolygu delweddau camerâu corff swyddogion o ddigwyddiadau lle defnyddiwyd grym, neu ddigwyddiadau stopio a chwilio.

Mae canlyniadau ac argymhellion o'r sesiynau'n cael eu cyflwyno i Heddlu Gwent eu hystyried ac i weithredu yn eu sgil fel y bo'n briodol, ac mae cynnydd yn erbyn y camau gweithredu hyn yn cael ei fonitro'n rheolaidd.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae'r panel yn rhoi haen ychwanegol o graffu annibynnol i sicrhau bod defnydd Heddlu Gwent o stopio a chwilio, a'i ddefnydd o rym, yn deg ac yn effeithiol, a bod unrhyw broblemau sy'n cael eu nodi'n cael eu cydnabod ac yn cael sylw priodol.

“Yn ogystal â nodi unrhyw gyfleoedd i ddysgu a gwella'r ffordd mae pobl wedi cael eu trin, mae'r panel yn tynnu sylw at enghreifftiau o waith da ac ymgysylltu ardderchog gan swyddogion yn ystod digwyddiadau hefyd.

"Mae'n un o'r ffyrdd rwyf yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar ran y cyhoedd, ac mae'n helpu i sicrhau bod prosesau'n cael eu dilyn mewn ffordd deg, gonest a thryloyw."

Gallwch weld adroddiadau o'r cyfarfodydd panel ar wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.