Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent yn cadw'r Wobr Tryloywder am y bedwaredd flwyddyn yn olynol
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, dyfarnwyd gwobr genedlaethol am dryloywder i Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent (Swyddfa'r Comisiynydd).
O'r 41 Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu trwy Gymru a Lloegr, mae Swyddfa Comisiynydd Gwent ymysg 27 y dyfarnwyd "Marc Ansawdd Tryloywder" iddynt yr wythnos hon.
Dyfernir y Marc Ansawdd gan Comparing Police and Crime Commissioners (CoPaCC), corff cenedlaethol annibynnol sy'n monitro gwaith llywodraethu'r heddlu, a chaiff ei noddi gan y corff sy'n arwain ar sicrwydd yr heddlu, Grant Thornton.
Cyflwynir gwobrau CoPaCC i'r swyddfeydd comisiynwyr hynny sy'n gallu dangos eu bod yn darparu gwybodaeth allweddol ar gyfer y cyhoedd ar eu gwefan mewn fformatau hygyrch. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ynghylch pwy ydyn nhw a'r hyn maen nhw'n ei wneud, yr hyn maen nhw'n ei wario a sut maen nhw'n ei wario, beth yw eu blaenoriaethau, sut maen nhw'n gwneud penderfyniadau, a gwybodaeth ynghylch cwynion, polisïau a gweithdrefnau.
Wrth longyfarch ei dîm ar eu dyfarniad, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Rwyf wrth fy modd bod fy swyddfa wedi cael cydnabyddiaeth unwaith eto am ein hymdrechion wrth fodloni'r gofynion tryloywder statudol.
"Ers i mi gael fy ethol, mae bod yn agored a thryloyw i'r trigolion rwy'n eu cynrychioli wedi bod yn flaenoriaeth i mi.
"Yn ystod y chwe mis diwethaf, mae fy ngwefan wedi cael ei hailwampio'n llwyr i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir gennym ni nid yn unig yn berthnasol a chyfredol, ond yn cael ei darparu mewn fformatau hygyrch ac yn hawdd dod o hyd iddi."