Siopa Caredig dros y Nadolig
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi croesawu ymgyrch Nadolig Siopa Caredig, sy’n annog pobl i fod yn garedig ac i ddangos parch tuag at weithwyr siopau ledled Prydain dros y Nadolig.
Mae ymgyrch Wythnos Siopa Caredig yn cael ei gynnal gan y Swyddfa Gartref a'i gefnogi gan fanwerthwyr mwyaf y stryd fawr yn ogystal â siopau annibynnol, ac undeb y gweithwyr siopau USDAW.
Nod yr ymgyrch yw annog ymddygiad cadarnhaol mewn siopau, cydnabod rôl bwysig gweithwyr siopau a chodi ymwybyddiaeth o faint ac effaith trais a chamdriniaeth yn erbyn gweithwyr siopau.
Meddai Comisiynydd Mudd: "Rwyf yn croesawu’r gefnogaeth barhaus i weithwyr siopau dros y Nadolig.
"Rwyf wedi bod allan ar grwydr yng Ngwent dros yr wythnosau diwethaf i ddangos fy nghefnogaeth i USDAW, ac rwyf wedi bod yn siarad â gweithwyr am y pethau maen nhw wedi'u profi.
"Does dim esgus dros drais a chamdriniaeth yn erbyn ein gweithwyr siopau, a gofynnaf yn daer ar y cyhoedd i fod yn garedig, ac ar fanwerthwyr i riportio unrhyw ddigwyddiadau wrth Heddlu Gwent."