Sioe deithiol Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd yn cychwyn
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent a'i thîm wedi bod yn ymweld â chymunedau ledled Gwent i hyrwyddo Cynllun Heddlu, Trosedd, a Chyfiawnder newydd Comisiynydd Jane Mudd.
Yr wythnos yma maen nhw wedi ymweld â’r Fenni, Glynebwy, Rhisga, Coleg Gwent ym Mrynbuga, ac Ysgol Gynradd Llyswyry, i siarad â phreswylwyr am flaenoriaethau'r Comisiynydd ar gyfer Gwent a sut mae hi'n gweithio i wneud cymunedau'n fwy diogel.
Datblygwyd cynllun y Comisiynydd ar ôl 10 mis o ymgysylltu helaeth â'r cyhoedd ac mae'n nodi sut y bydd yn dwyn Heddlu Gwent i gyfrif o ran ei blaenoriaethau. Mae hefyd yn amlinellu sut bydd hi'n gweithio gyda phartneriaid a'r system cyfiawnder troseddol ehangach i ddarparu gwasanaeth gwell i bobl Gwent.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Ers i mi gael fy ethol yn 2024, rwyf wedi bod yn ymweld â chymunedau ledled Gwent ac yn gofyn i bobl beth maen nhw eisiau ei weld gan eu heddlu. Y cynllun hwn yw canlyniad y sgyrsiau hynny.
“Rwyf wedi ymrwymo i barhau'r sgyrsiau gyda phreswylwyr a bydd y tîm a mi ar grwydr ledled Gwent yn ystod y misoedd nesaf, yn ymweld â'n trefi a'n hardaloedd gwledig, siarad â'n preswylwyr a gweithio gyda Heddlu Gwent i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau.”