Sioe deithiol Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd

2il Mai 2025

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, a'i thîm wedi bod yn brysur yn siarad â phreswylwyr yng Ngwent am ei Chynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd.

Dros yr wythnosau diwethaf mae'r tîm wedi ymweld â Blaenafon, Brynmawr, Caerffili, Caerllion, Cas-gwent, Cwm, canol dinas Casnewydd, Pilgwenlli, Ringland, Rhisga a Thredegar.

Maen nhw wedi defnyddio'r sesiynau i siarad â phreswylwyr am y pum blaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd, sef:

  • Atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Gwneud ein cymunedau'n fwy diogel
  • Amddiffyn pobl agored i niwed
  • Rhoi blaenoriaeth i ddioddefwyr
  • Lleihau aildroseddu

Mae'r cynllun llawn ar gael ar wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a  Throsedd.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae'r cynllun yma'n ganlyniad misoedd lawer o ymgysylltu â'r cyhoedd ac rydym yn ail ymweld â chymunedau yn awr ac yn siarad â phreswylwyr am sut mae eu sylwadau nhw wedi llunio'r cynllun, a sut byddant yn helpu i lywio Heddlu Gwent dros y blynyddoedd i ddod.

"Rwyf wedi ymroi i barhau i siarad gyda phreswylwyr ac rwyf wedi lansio ffyrdd newydd i dderbyn y newyddion diweddaraf am fy ngwaith yn ddiweddar. Gallwch ein dilyn ni ar Bluesky a Threads yn awr, yn ogystal â Facebook ac Instagram, a gallwch gofrestru ar gyfer ein sianel Whatsapp i gael y newyddion diweddaraf."

Dilynwch GwentPCC ar Bluesky, Facebook, Instagram a Threads.

Cofrestrwch i dderbyn e-fwletin y Comisiynydd.

Cysylltwch ar WhatsApp.