Seremoni gosod y garreg gopa ar bencadlys newydd Heddlu Gwent
Mae seremoni gosod y garreg gopa wedi cael ei chynnal i nodi cwblhau pwynt uchaf pencadlys newydd Heddlu Gwent yng Nghwmbrân.
Bydd lle i 480 o swyddogion a staff yn yr adeilad 5,178 metr sgwâr yn Ystâd Ddiwydiannol Llantarnam a bydd yn gartref i ystafell reoli'r llu, sef y pwynt cyswllt cyntaf i alwadau 999 a 101.
Pan fydd wedi ei gwblhau, bydd y pencadlys newydd yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau bod anghenion lles a hyfforddiant staff plismona yng Ngwent yn cael eu diwallu, i'w helpu nhw i amddiffyn a thawelu meddwl y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu. Bydd hefyd yn gartref i dimau troseddau mawr, gwasanaethau cefnogi ac uwch reolwyr.
Bydd ar safle sydd tua hanner ôl troed y pencadlys presennol yng Nghroesyceiliog ac amcangyfrifir y bydd yr adeilad yn arbed tua £1.1 miliwn o un flwyddyn i'r llall oherwydd costau cynnal rhatach.
Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: "Bydd ein pencadlys newydd yn adeilad sy'n cyflawni ei ddiben ac yn addas ar gyfer plismona modern.
"Bydd yn ein galluogi i ddefnyddio technoleg newydd a dulliau arloesol i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n timau rheng flaen, ac i edrych ar ôl lles ein staff yn well."
Dylai'r gwaith adeiladu ar y pencadlys newydd fod wedi'i orffen yn yr hydref 2021.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae'r galw ar blismona'n dal i gynyddu bob blwyddyn a dylai swyddogion a staff gael adeilad modern sy'n addas ar gyfer ffyrdd modern o weithio.
"Mae'r adeilad hwn yn fuddsoddiad hirdymor mewn plismona yng Ngwent a bydd yn helpu Heddlu Gwent i amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau am lawer o flynyddoedd i ddod.
"Mae'n wych gweld bod strwythur yr adeilad newydd sbon hwn bron yn barod a hoffwn ddiolch i BAM Construction a gyflawnodd y prosiect hwn i ni, a busnesau lleol am eu hamynedd yn ystod y gwaith adeiladu."