Seremoni cwblhau hyfforddiant Cadetiaid Heddlu Trinity Fields
Yr wythnos yma, roedd yn bleser gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, fynd i Ysgol Arbennig Trinity Fields ar gyfer seremoni cwblhau hyfforddiant Cadetiaid Heddlu'r ysgol.
Gwyliodd rhieni'n llawn balchder wrth i'r bobl ifanc orymdeithio ar dir yr ysgol a derbyn tystysgrifau gan y Comisiynydd i nodi eu cyflawniad fel Cadetiaid Heddlu Gwent.
Mae swyddogion o dîm NXT Gen Heddlu Gwent wedi bod yn gweithio gyda'r ysgol ers 2019, yn llywio, datblygu, grymuso a dysgu sgiliau bywyd unigryw i helpu disgyblion i ddod yn ddinasyddion hyderus a medrus.
Sefydlwyd Cadetiaid Heddlu Gwent trwy ddefnyddio cyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Yn dilyn y gwaith ardderchog yn Trinity Fields, mae cyfle i ddisgyblion o Ysgol Arbennig Pen y Cwm, Ysgol Crownbridge a Choleg Aspris ddod yn Gadetiaid Heddlu yn awr.
Mae'r tîm NXT Gen yn gweithio gyda disgyblion i addasu'r wybodaeth a ddarperir i Unedau Cadetiaid ledled Gwent yn bwrpasol ar gyfer eu hanghenion a'u galluoedd nhw, gan sicrhau eu bod nhw’n derbyn yr un profiad â'u cyfoedion.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Roedd yn ddiwrnod bendigedig, ac roedd hi’n wych gweld y pleser ar wynebau'r disgyblion a'u rhieni wrth i'w cyflawniadau gael eu cydnabod.
"Rwyf yn falch i fuddsoddi yn rhaglen Cadetiaid yr Heddlu er mwyn i ni allu helpu i feithrin dinasyddion da ar gyfer y dyfodol."
Meddai Ian Elliot, Pennaeth Ysgol Trinity Fields, "Rwyf wrth fy modd i groesawu swyddogion o Heddlu Gwent i Trinity Fields.
"Mae bod yn rhan o'r rhaglen cadetiaid wedi cael effaith enfawr ar yr ysgol a'n disgyblion.
"Mae wedi eu dysgu nhw sut i fod yn ddinasyddion da, sut i gadw'n ddiogel, ac mae wedi chwalu rhwystrau rhwng disgyblion a'r heddlu, gan eu helpu nhw i ddeall bod swyddogion yno i helpu ac, yn fwyaf pwysig, sut i alw am gymorth mewn argyfwng."