Rhybudd - sgamiau brechlyn Coronafeirws
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn rhybuddio trigolion i fod yn wyliadwrus o negeseuon e-bost, galwadau a negeseuon testun twyllodrus yn gofyn am fanylion banc a gwybodaeth bersonol arall er mwyn trefnu brechlyn Coronafeirws.
Mae brechlynnau am ddim ac ni fydd y GIG byth yn gofyn i chi dalu, byth yn dod i'ch cartref yn ddirybudd, nac yn gofyn i chi brofi pwy ydych chi drwy anfon copïau o ddogfennau personol.
Daw'r rhybudd ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a'r thema eleni yw 'ymddiriedaeth a dibynadwyedd ar-lein’.
Dywedodd Jeff Cuthbert: "Mae'r rhain yn sgamiau brawychus, sy'n chwarae ar ofnau gwirioneddol pobl am Coronafeirws.
“Cofiwch, bydd y GIG yn cysylltu'n uniongyrchol â chi i drefnu eich brechlyn, naill ai ar y ffôn neu drwy lythyr, ac ni fydd yn gofyn i chi am arian, na dogfennau personol, ar unrhyw bwynt.
"Mae rhai o'r negeseuon e-bost a negeseuon testun sy'n cael eu hanfon gan y twyllwyr hyn yn edrych yn broffesiynol iawn, felly byddwch yn wyliadwrus a gwarchodwch unrhyw ffrindiau ac aelodau teulu bregus rhagddynt."
Ni fydd y GIG byth yn gwneud y canlynol:
- Gofyn am daliadau, gan fod y brechlyn am ddim
- Gofyn am eich manylion banc
- Dod i'ch cartref yn ddirybudd i roi'r brechlyn
- Gofyn i chi brofi pwy ydych chi drwy anfon copïau o ddogfennau personol (e.e. pasbort).
Gallwch anfon unrhyw negeseuon e-bost amheus ymlaen at report@phishing.gov.uk. Gellir anfon negeseuon testun amheus at 7726.
Os ydych chi wedi dioddef twyll neu achos o ddwyn hunaniaeth, neu'n amau eich bod wedi dioddef, cysylltwch ag Action Fraud https://actionfraud.police.uk neu 0300 123 2040.
Gallwch ffonio Heddlu Gwent ar 101 hefyd. Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.