Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru
28ain Hydref 2022
Roeddwn yn falch iawn i siarad yn lansiad Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru’r wythnos hon.
Bydd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn llais strategol sy’n hybu a chysylltu’r sector cyhoeddus, a’r holl bartneriaid sy’n ymwneud â diogelwch cymunedol, er mwyn iddynt greu cymunedau mwy diogel ledled Cymru.
Dechreuodd y gwaith o ddwyn plismona, llywodraeth leol a phartneriaid eraill at ei gilydd gyda’r nod o wella diogelwch yn ein cymunedau yng Nghymru yn ôl yn 2021.
Mae’n ardderchog gweld y gwaith hwn yn cael ei wireddu ac edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda’r rhwydwaith yn fy rôl fel comisiynydd a chadeirydd Plismona yng Nghymru.