Rhoi cymorth i ddioddefwyr a phobl sydd wedi bod yn dyst i drosedd
6ed Chwefror 2024
Os ydych chi wedi dioddef neu wedi gweld trosedd mae disgwyl i asiantaethau cyfiawnder troseddol fel yr heddlu a’r llysiau roi gwasanaeth o safon arbennig i chi.
Mae gennych chi hawl i gael eich trin yn garedig, gydag urddas a pharch.
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio gwefan newydd i roi gwybodaeth a chymorth i bobl sydd wedi dioddef a bod yn dyst i drosedd, ac i’w teulu a ffrindiau.
Mae rhestr o gysylltiadau a darparwyr cymorth lleol ar gael ar ein gwefan.