Rhialtwch Calan Gaeaf ym Mlaenafon

1af Tachwedd 2024

Mae swyddogion cefnogi cymuned ym Mlaenafon wedi bod yn helpu plant i gerfio eu pwmpenni'n barod ar gyfer Calan Gaeaf.

Cynhaliodd y tîm heddlu lleol ddigwyddiad Calan Gaeaf yn Neuadd y Gweithwyr Blaenafon, ac yn ogystal â cherfio pwmpenni cafwyd cystadleuaeth gwisg ffansi a gemau Calan Gaeaf hefyd.

Nod y digwyddiad oedd rhoi cyfle i blant ddefnyddio'u hegni i wneud rhywbeth cadarnhaol, llawn hwyl yn ystod y cyfnod yn arwain at Galan Gaeaf.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roedd yn hyfryd gweld y tîm heddlu lleol ym Mlaenafon yn cynnal y digwyddiad arbennig yma i blant yn y dref. Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i chwalu rhwystrau rhwng plant a'r heddlu a dangos iddyn nhw bod yr heddlu'n wynebau diogel yn eu cymunedau y gallan nhw ymddiried ynddynt.

“Mae Calan Gaeaf yn un o'r adegau mwyaf prysur i Heddlu Gwent, ac mae'n gallu bod yn amser pryderus iawn os ydych chi'n fregus neu'n byw ar eich pen eich hun. Mae digwyddiadau wedi'u trefnu fel yr un yma’n galluogi plant i fwynhau rhialtwch mewn amgylchedd diogel.”