Rheolwr Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid ar restr fer am wobr genedlaethol

23ain Medi 2019

Mae rheolwr Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol.

Mae Michaela Rogers, sydd wedi rheoli'r gwasanaeth ers 2012, wedi cael ei henwebu fel Hyrwyddwr Cyfiawnder Troseddol fel rhan o Wobrau Cymunedol The Howard League.

Mae'r gwobrau'n cydnabod pobl a phrosiectau sy'n cadw plant a phobl ifanc allan o'r system cyfiawnder troseddol ac yn lleihau eu risg o aildroseddu.

Cafodd ei henwebu am y wobr gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, sy'n cyfrannu arian tuag at y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yng Ngwent.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae Michaela wedi profi ei hun i fod yn arweinydd arloesol, cadarn a gofalgar, ac o dan ei rheolaeth hi mae'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid ym Mlaenau Gwent a Chaerffili wedi mynd o nerth i nerth.

"Mae hi bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella gwasanaethau, atal plant rhag troseddu, gwella eu cyfleoedd mewn bywyd a chadw cymunedau'n ddiogel.

"Mae Michaela'n cael ei chydnabod yn barod yng Ngwent fel hyrwyddwr cyfiawnder troseddol a hoffwn ddymuno pob lwc iddi ar gyfer y gwobrau hyn."

Dywedodd Michaela: “Rwy'n teimlo'n freintiedig ac yn hynod o ddiolchgar i fod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent. Mae cael fy nghydnabod a bod mor uchel fy mharch yn fraint ac yn bleser.

“Mae'n gyffrous iawn ac rwy'n edrych ymlaen at y gynhadledd a'r gwobrau Policing the Community ar 12Tachwedd 2019 yn Llundain, lle bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi. Beth bynnag fydd y canlyniad, mae'r profiad wedi bod yn anhygoel."