Rhaid i lywodraeth y DU roi mwy o bwyslais ar achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol
Bydd cynlluniau llywodraeth y DU i gymryd 'agwedd dim goddefgarwch' at ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu croesawu yn ein cymunedau. Mae'r pwerau ychwanegol i'r heddlu a phartneriaid awdurdod lleol ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn swnio'n gadarnhaol a, cyn belled â'u bod yn cael eu cefnogi gan gyllid priodol, byddant yn caniatáu i ni gyfeirio adnoddau ychwanegol yn uniongyrchol mewn mannau ac ardaloedd sy'n peri problemau.
Fodd bynnag, ni fydd cyflwyno cynllun newydd yn datrys y broblem gymhleth o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac rwyf yn pryderu ei bod yn ymddangos bod y pwyslais yn cael ei roi ar drin symptomau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn hytrach na'r achosion.
Er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, rhaid i ni ddeall a rhoi sylw i broblemau fel tlodi eang, diffyg oedolion cadarnhaol yn dangos esiampl i bobl ifanc, diffyg gwasanaethau, a diffyg cyfleoedd o ran addysg a gwaith.
Mae rhai ymrwymiadau yn y cyhoeddiad heddiw i fuddsoddi mewn darpariaeth i bobl ifanc, a chreu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc. Dyma beth rydym ni a’n partneriaid yn ceisio'i gyflawni eisoes yma yng Ngwent, a dyma beth rwy'n teimlo y dylai llywodraeth y DU fod yn canolbwyntio arno os yw o ddifrif ynglŷn â mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau.
Wrth gwrs, mae'n rhaid i bobl sy'n cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol yn ein cymunedau wynebu cyfiawnder. Ond ateb llawer gwell i'r broblem ar gyfer yr hirdymor yw cydweithio i'w hatal nhw rhag cyflawni'r ymddygiad yma yn y lle cyntaf.