Rhaid aros gartref, diogelu’r GIG ac achub bywydau
Mae’r sefyllfa yng Nghymru yn ddifrifol iawn ar hyn o bryd.
Mae math newydd o’r feirws yn symud ar garlam ar draws Cymru. Mae’n lledaenu’n hawdd rhwng pobl pan fyddwn gyda’n gilydd.
Mae wedi cydio yn y Gogledd, lle mae’r achosion coronafeirws yn codi’n gyflym, ac mae’n bosibl y bydd yn gyrru’r cynnydd yn achosion y De hefyd cyn bo hir.
Mae’r math newydd hwn o’r feirws yn achosi problemau mewn sawl rhan o’r DU.
Symudon ni i lefel rhybudd pedwar – cyfnod clo – cyn y Nadolig er mwyn diogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y coronafeirws.
Oherwydd y math newydd o’r feirws, mae’n bwysicach nag erioed dilyn y rheolau ac aros gartref. Dylid gweithio gartref hefyd os yn bosibl.
Mae’r gweithwyr rheng flaen yn dal i roi ein hiechyd a’n diogelwch ni gyntaf, bob dydd. Ond wrth i’r achosion coronafeirws gynyddu, tyfu hefyd mae’r pwysau ar y GIG.
Wrth i fwy a mwy o bobl fynd yn sâl, rydym ni’n bryderus iawn y gallai’r GIG gael ei llethu’n llwyr.
Mae angen i bob un ohonom aros gartref eto a diogelu ein GIG.
Diolch o galon i bawb sy’n dilyn y rheolau. Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod hynod o anodd a bod pawb yn aberthu pethau er mwyn diogelu eu teulu a diogelu Cymru.
Mae’r brechlynnau Covid-19 newydd yn cynnig gobaith o ddyfodol gwell dros y misoedd nesaf.
Rydym yn gweithio’n wirioneddol galed i roi’r brechlyn ar gael i bawb sydd ei angen.
Yn y cyfamser, rhaid i ni ddal ati i ddilyn y rheolau er mwyn diogelu ein hunain a’n teuluoedd.
Mae gormod wedi colli eu bywydau eisoes oherwydd y feirws ofnadwy hwn. Byddwn yn gorfodi’r rheolau pan fo rhaid.
Beth bynnag fo eich rheswm, gwnewch eich rhan i ddiogelu Cymru. Cofiwch, aros gartref, diogelu’r GIG ac achub bywydau.