Recriwtio swyddogion cymorth cymunedol
25ain Mehefin 2020
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae swyddogion cymorth cymunedol yn gwneud gwaith ardderchog. Yn aml, nhw yw'r cysylltiad rhwng yr heddlu a'r gymuned leol, yn helpu i ddatblygu hyder a magu gwell cydlyniant cymunedol.
"Nid yw'n swydd hawdd ac mae swyddogion cymorth cymunedol yn aml yn rhoi cymorth i rai o'r trigolion mwyaf bregus yn ein cymunedau.
"Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi eu cymuned i ddysgu mwy am y gwaith."
Mae gwaith swyddog cymorth cymunedol yn cynnwys:
- Mynd ar batrôl yn y gymuned, gan ddod i adnabod trigolion
- Rhoi cymorth i dimau plismona cymdogaeth ddatrys problemau lleol
- Ymweld â chartrefi i gasglu gwybodaeth a chynnig tawelwch meddwl ar ôl trosedd neu ddigwyddiad
- Meithrin cysylltiadau gyda phobl allweddol yn y gymuned, fel arweinwyr grwpiau lleol a chrefyddau
- Gwarchod safleoedd troseddau
Casglu tystiolaeth teledu cylch cyfyng - Rhoi cyngor ar atal trosedd a diogelwch personol
- Gweithredu fel tyst, mynd i'r llys yn ôl yr angen
- Ymgysylltu â phobl ifanc, creu cydberthnasau gwerthfawr.
Am ragor o fanylion, ewch i wefan Heddlu Gwent.