Recriwtiaid newydd Heddlu Gwent yn gorffen cam cyntaf eu hyfforddiant
11eg Medi 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert wedi llongyfarch y 28 o recriwtiaid newydd sydd wedi cwblhau cam cyntaf eu hyfforddiant.
Dywedodd: "Hoffwn longyfarch y 28 o recriwtiaid newydd sydd wedi llwyddo yng ngham cyntaf eu hyfforddiant. Maen nhw'n dechrau eu gyrfa ar adeg pan mae amddiffyn a thawelu meddwl y cyhoedd yn flaenoriaeth bwysicach nac erioed i ni.
Dymunaf y gorau iddyn nhw yn y dyfodol ac rwy'n hyderus y byddan nhw'n ymdrechu i fynd yr ail filltir i gadw ein cymunedau'n ddiogel."