Pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth
Yr wythnos diwethaf ymunais â gweinidog plismona’r Deyrnas Unedig Kit Malthouse, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt AS, a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd ledled Cymru i drafod gweithio mewn partneriaeth.
Mae Cymru’n cael ei chydnabod ar hyn o bryd fel gwlad sy’n arwain y ffordd o ran gwaith partneriaeth rhwng heddluoedd cyfagos ac asiantaethau lleol eraill, ac mae’r Swyddfa Gartref yn awyddus i ddysgu o’n llwyddiant a gweld sut y gellid cymhwyso hyn yn Lloegr.
Mae gweithio mewn partneriaeth rhwng y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn un o ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Cyflwynais y Bil i’r Cynulliad pan oeddwn i’n Weinidog Llywodraeth Cymru, ac rwy’n dal i fod yn hynod falch ohono.
Mae’n sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio i fynd i’r afael â materion a gwneud penderfyniadau sydd er budd gorau’r bobl a’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.
Nid yw plismona wedi ei ddatganoli yng Nghymru, ond fy nghred bersonol i yw y dylai fod. Rwy’n credu’n gryf mai cydweithio mewn partneriaeth rhwng yr holl asiantaethau cyhoeddus yw’r unig ffordd o fynd i’r afael â’r materion rydyn ni’n eu hwynebu ar hyn o bryd, ac mae angen i blismona fod wrth galon yr ymagwedd hon.
Mae’r safbwynt hon wedi’i chefnogi gan y llywodraeth yma yng Nghymru, ond nid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Byddai gwasanaeth heddlu datganoledig, sy’n uniongyrchol atebol i bobl Cymru, yn atgyfnerthu’r syniad o ‘un gwasanaeth cyhoeddus’. Byddai’n rhoi rhyddid i ni weithredu’n fwy prydlon i fynd i’r afael â materion allweddol yn y system cyfiawnder troseddol yn lleol. Yn hollbwysig, byddai’n sicrhau bod buddiannau pobl Cymru bob amser yn ganolog i’n penderfyniadau.
Byddaf yn parhau i eirioli dros ddatganoli plismona yng Nghymru drwy gydol fy nghyfnod fel Comisiynydd.