Pwerau gorfodi rheolau parcio'n cael eu trosglwyddo i gynghorau lleol
Mae pwerau gorfodi rheolau parcio yng Ngwent wedi cael eu trosglwyddo i'r pum cyngor lleol yn awr.
Mae hyn yn golygu bod cynghorau lleol yn gyfrifol am orfodi'r rhan fwyaf o reolau parcio ar ffyrdd cyhoeddus.
Mae Heddlu Gwent yn parhau i fod yn gyfrifol am orfodi deddfwriaeth traffig arall a throseddau mwy difrifol, neu ble y bo angen er mwyn diogelwch y cyhoedd.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Rwy'n cefnogi trosglwyddo pwerau gorfodi rheolau parcio i'r awdurdodau lleol, gan fod ymdrin â pharcio anghyfreithlon ac anghyfrifol yn dreth gyson ar adnoddau'r heddlu.
"Mae adnoddau penodol i fynd i'r afael â'r broblem hon yn awr ac mae'r cynghorau, yn wahanol i'r heddlu, yn gallu cadw'r arian a godir i'w fuddsoddi er mwyn gwella ffyrdd a thrafnidiaeth."
Ewch i wefan eich cyngor lleol i gael manylion:
Blaenau Gwent
Caerffili
Sir Fynwy
Casnewydd
Torfaen