Prosiect DJ yn agor cyfleoedd i bobl ifanc Torfaen
Mae pobl ifanc yn Nhorfaen sydd wedi’u datgysylltu o addysg neu waith ac sydd mewn perygl o gymryd rhan mewn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn dysgu sgiliau DJ fel rhan o brosiect a ariennir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Mae prosiect Ysbrydoli yn hyfforddi pobl ifanc i ysgrifennu, recordio a golygu eu sioeau radio eu hunain, gan eu hannog i ddatblygu sgiliau niferus a chwalu rhwystrau at addysg, hyfforddiant a gwaith.
Mae’r cyllid gan swyddfa’r Comisiynydd wedi talu am stiwdio gerddoriaeth fach gydag offer recordio proffesiynol, a gweithiwr i hyfforddi a mentora’r bobl ifanc, sy’n cael eu cyfeirio at y prosiect gan ysgolion a’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid.
Meddai Gareth Jones, Rheolwr Prosiect Ysbrydoli: “Rydyn ni’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n ei chael hi’n anodd ymgysylltu ag addysg neu aros mewn gwaith, a rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu sgiliau newydd a meithrin eu hyder drwy wneud rhywbeth maen nhw wir yn ei fwynhau.
“Rydyn ni’n gweld bod pobl ifanc a fyddai wedi osgoi’r ysgol o’r blaen, bellach yn mynychu’n rheolaidd gan eu bod nhw’n gwybod y byddan nhw’n cael dod i weithio gyda ni. Rydyn ni wedi gweld datblygiad enfawr ym mhawb sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect o ran eu hyder a’u gallu i weithio fel tîm a chanolbwyntio ar y dasg o dan sylw, sgiliau a fydd yn cynnig llawer o fanteision iddyn nhw ar gyfer cyfleoedd gwaith yn y dyfodol.”
Mae’r cyllid yn dod o Gronfa Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, sydd â’r nod o alluogi plant a phobl ifanc i fyw bywydau mwy diogel ac iach.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Pan fydd pobl ifanc yn datgysylltu oddi wrth addysg a gwaith, maen nhw’n arbennig o fregus o ran troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Drwy roi cyfle iddyn nhw wneud rhywbeth sy’n bwysig iddyn nhw, gallwn ni eu helpu i ddatblygu gan sicrhau eu bod nhw’n cael eu diogelu, eu cefnogi, ac yn gallu cyflawni eu llawn botensial.”