Prosiect Cymunedol Pobl Ifanc Casnewydd
30ain Mehefin 2022
I nodi Wythnos Genedlaethol Gwaith Ieuenctid, ymwelodd fy swyddfa â’r Prosiect Cymunedol Pobl Ifanc, sydd wedi’i leoli yn Tŷ Cymunedol ym Maendy.
Roedd hi’n wych gweld pobl ifanc yn dysgu sgiliau newydd yn y stiwdio recordio ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae yn y parc.
Dim ond rhai o’r gweithgareddau niferus a gynigir yn Tŷ Cymunedol yw’r rhain sy’n cael eu cefnogi gyda chyllid o fy swyddfa i.
Dim ond un o’r mentrau niferus yr ydym yn eu hariannu yw hon sy’n cynnig cymorth corfforol, meddyliol ac economaidd-gymdeithasol amhrisiadwy i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn amgylchedd diogel i ffwrdd o niwed posibl.
Hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o’r prosiect.