Prif Weinidog Cymru yn ymweld â phencadlys yr heddlu
Roedd yn anrhydedd i Brif Gwnstabl Pam Kelly a minnau groesawu’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, i bencadlys newydd Heddlu Gwent yr wythnos hon.
Cafodd y Prif Weinidog daith o amgylch ystafell reoli newydd yr heddlu, a threuliodd amser yn siarad â’r staff.
Ystafell reoli Heddlu Gwent yw’r man cyswllt cyntaf ar gyfer galwadau 999 a 101. Ar gyfartaledd, mae’r swyddogion galwadau yn ateb mwy na 600 o alwadau bob dydd, ac mae cannoedd yn fwy yn cael eu trin drwy e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd nifer sylweddol o’r galwadau hyn yn ymwneud ag iechyd meddwl mewn rhyw ffordd, ac roeddwn i’n awyddus i’r Prif Weinidog ddeall y pwysau y mae holl heddluoedd Cymru’n eu hwynebu wrth i blismona lenwi’r bylchau yn y gwasanaeth cyhoeddus yn gynyddol.
Gwnaeth hefyd gyfarfod â’r garfan ddiweddaraf o swyddogion cymorth cymunedol Heddlu Gwent. Ar hyn o bryd, mae gennym ni 172 o swyddogion cymorth cymunedol yn cynorthwyo cymunedau Gwent ac mae tua 100 o’r rhain yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru.
Swyddogion Cymorth Cymunedol yw’r cysylltiad rhwng yr heddlu a’n cymunedau, gan helpu i feithrin ymddiriedaeth a datblygu mwy o gydlyniad cymunedol ar draws Gwent. Nid yw’n swydd hawdd ac mae swyddogion cymorth cymunedol yn aml yn cefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Hoffwn i ddiolch i’r Prif Weinidog a’i dîm am eu hymweliad.