Prif Gwnstabl yn ymddeol
28ain Mehefin 2019
Yr wythnos hon, cefais y pleser o gynnal derbyniad i nodi ymddeoliad Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Julian Williams, a fydd yn gorffen yn swyddogol dydd Sul 30 Mehefin.
Mae Julian wedi bod yn arweinydd effeithiol iawn ac mae wedi dangos ei ymrwymiad amlwg i amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau. Mae ei benderfyniad i greu uned gymdeithasol i helpu i ddileu masnachu mewn pobl a chaethwasiaeth fodern yn enghraifft wych o hyn.
Rwy'n siŵr y bydd llawer o gyfleoedd iddo gyfrannu at fywyd cyhoeddus Cymru yn y dyfodol a dymunaf bob hwyl iddo.
Rydym yn cyfweld ymgeiswyr i gymryd ei le yn awr a byddaf yn rhoi adborth ar y broses hon yn y man.