Prif Gwnstabl newydd wedi'i benodi i arwain Heddlu Gwent

13eg Rhagfyr 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, wedi penodi Mark Hobrough yn Brif Gwnstabl newydd Heddlu Gwent.

Mae Mark Hobrough wedi gwasanaethu am 29 mlynedd, gan gynnwys pedair blynedd gyda Heddlu Gwent, ac mae wedi gweithredu fel Prif Gwnstabl dros dro ers mis Awst 2024.

Cafodd ei ddewis yn dilyn proses ddethol gadarn a chystadleuol a oedd yn cynnwys arolwg cyhoeddus a gynhaliwyd drwy gydol yr haf, a chyfres o baneli cyfweld â rhanddeiliaid gyda sefydliadau partner, aelodau o'r gymuned, a phlant a phobl ifanc.

Cadarnhawyd y penodiad gan Banel Heddlu a Throsedd Gwent ym mhencadlys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddydd Gwener 13 Rhagfyr.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae'n bleser gen i gyhoeddi mai Mark Hobrough yw Prif Gwnstabl newydd Heddlu Gwent.

"Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd rwyf wedi ymroi i fod mor agored a thryloyw â phosibl ac rwyf wedi sicrhau bod trigolion Gwent wedi cael eu cynnwys trwy'r broses gyfan.

"Roedd yr adborth a gefais i o'r cyfweliadau a gynhaliwyd gan bartneriaid proffesiynol, aelodau cymunedau, a phlant a phobl ifanc yn pwysleisio bod gwybodaeth Mark, a'i ymroddiad i bobl Gwent, yn amlwg. Mae hyn yn rhywbeth a oedd yn eglur i minnau hefyd ac yn rhywbeth rwyf yn ei werthfawrogi'n fawr iawn. 

"Fydd hon ddim yn swydd hawdd. Fel Comisiynydd fy rôl i yw sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i bobl Gwent, ac mae gen i ddisgwyliadau uchel iawn. Fodd bynnag, rwy'n credu bod Mark, fel finnau, yn angerddol ynglŷn â gwneud Gwent yn lle diogel i'n preswylwyr ac rwyf yn edrych ymlaen at weithio gydag ef i wneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau."

Mae cadarnhad o benodiad Prif Gwnstabl gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ofyniad o dan Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Rôl y panel yw sicrhau bod y broses ddewis a phenodi ar gyfer prif gwnstabliaid yn cael ei chynnal yn agored ac yn deg.

Meddai Prif Gwnstabl Mark Hobrough: "Mae'n anrhydedd mawr i mi gael fy mhenodi i arwain y gwasanaeth heddlu hwn sy'n cynnwys swyddogion a staff ymroddedig sy'n gweithio'n ddiflino i wasanaethu ein cymunedau.  Mae wedi bod yn fraint gwasanaethu fel Prif Gwnstabl Dros Dro ers mis Awst ac rwyf eisiau diolch i'r Comisiynydd a'r Panel am y cyfle yma.

"Fy mwriad yw cryfhau ymddiriedaeth a hyder yn ein gwasanaeth heddlu trwy wella plismona cymdogaeth, bod yn heddlu mwy gweledol, a rhoi sylw i'ch pryderon chi'n effeithiol. Rwyf wedi ymroi i sicrhau bod ein cymdogaethau'n llefydd diogel i'n holl drigolion a'u teuluoedd, ac i gefnogi'r unigolion mwyaf agored i niwed.

"Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid a'r Comisiynydd i wireddu ein huchelgais o ddiogelwch cymunedol a gwella ansawdd bywyd i drigolion lleol, yn arbennig pobl ifanc."