Police and Crime Commissioner backs call to surrender zombie-knives

3ydd Medi 2024

Cyn y gwaharddiad, mae Heddlu Gwent yn cymryd rhan yng nghynllun ildio ac iawndal llywodraeth y DU.  Mae'r cynllun yn caniatáu i bobl ildio cyllyll sy'n dod o fewn y ddeddfwriaeth newydd mewn gorsafoedd heddlu, yn gyfnewid am gais am iawndal.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Does dim rheswm da i'r rhan fwyaf o bobl gael y mathau yma o gyllyll ac rwyf yn croesawu'r ddeddfwriaeth yma a fydd yn gwneud bod yn berchen arnynt yn drosedd.

"Rwyf wedi ymroi i fynd i'r afael â throseddau cyllyll yng Ngwent. Yn fy rôl flaenorol fel arweinydd y cyngor, roeddwn yn falch o weithio gyda Heddlu Gwent i ddod â'r Angel Cyllyll i'n cymunedau, gan bwysleisio ei neges gwrth-drais bwerus. Nawr, fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, rwyf yn rhoi arian i'r elusen Fearless, sy'n ymweld ag ysgolion ledled y rhanbarth, yn siarad â phlant a phobl ifanc am y problemau hyn ac yn eu dysgu nhw am beryglon cario cyllyll a beth gallai ei olygu iddyn nhw, eu ffrindiau a'u teuluoedd.

“Rhaid i wneud popeth y gallwn ni i annog plant a phobl ifanc i beidio â chario cyllyll o unrhyw fath ac mae'r ddeddfwriaeth newydd yma'n gam arall yn y cyfeiriad cywir.  Os oes gan unrhyw un gyllell o fath sombi neu machete, ildiwch nhw i Heddlu Gwent a helpwch i wneud ein cymunedau'n fwy diogel.”

Gellir ildio cyllyll yn y gorsafoedd canlynol tan ddydd Llun 23 Medi: 

  • Gorsaf heddlu canolog Casnewydd 8am – 5pm
  • Gorsaf heddlu Coed-duon: 9am – 4pm
  • Gorsaf heddlu Cwmbrân: 9am - 1pm a 2pm – 4pm
  • Gorsaf heddlu Trefynwy: 9am - 1pm a 2pm – 4pm
  • Gorsaf heddlu Glynebwy: 9am - 1pm a 2pm – 4pm



I gael rhagor o fanylion, ewch i wefan Heddlu Gwent