Pobl ifanc yn troi'r sbotolau ar arweinwyr Gwent
Y mis hwn, gwnaeth plant a phobl ifanc o bob rhan o Went holi eu cwestiynau i ffigyrau blaenllaw yn nigwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Daeth mwy na 130 o bobl ifanc i ofyn eu cwestiynau i banel dan gadeiryddiaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd.
Yn ateb cwestiynau ar y noson roedd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent, Vicky Townshend; Arweinydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, Anthony Hunt; Shereen Williams MBE, Prif Swyddog Gweithredol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru; a'r cyflwynydd teledu Lloyd Lewis.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Roeddwn i wrth fy modd bod cynifer wedi dod a hoffwn ddiolch i bawb a oedd yno ar y noson i holi eu cwestiynau.
"Y llynedd, fe wnes i lansio fy Siarter Plant, gan wneud ymrwymiad i blant a phobl ifanc yng Ngwent y byddwn yn gwrando ar eu barn, ac yn sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu y gorau y gallant fod.
"Rhoddodd fy sesiwn Hawl i Holi Ieuenctid gyfle i bobl ifanc holi cwestiynau sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw’n uniongyrchol i ffigyrau blaenllaw o bob rhan o Went, gan atgyfnerthu'r ymrwymiad y gwnes i yn fy siarter, wrth helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder rhwng ein plant a'n pobl ifanc a gwasanaethau cyhoeddus."