Pobl ifanc yn rhoi’r sbotolau ar arweinwyr Gwent
Bydd plant a phobl ifanc yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau i arweinwyr y sector cyhoeddus yn nigwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ym mis Mawrth eleni.
Dan gadeiryddiaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd, bydd y digwyddiad yn gyfle i bobl ifanc ofyn cwestiynau yn uniongyrchol i banel o bobl ddylanwadol o wasanaethau cyhoeddus ledled Gwent sy'n gwneud penderfyniadau pwysig.
Bydd aelodau'r panel yn cynnwys Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Mark Hobrough; arweinydd Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Gwent, Anthony Hunt; a Shereen Williams MBE, Prif Swyddog Gweithredol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, un o fy nghyfrifoldebau yw dod â phartneriaid at ei gilydd i roi sylw i bryderon ein cymunedau.
"Bydd y digwyddiad yma'n rhoi cyfle i bobl ifanc ofyn cwestiynau yn uniongyrchol i bobl sy'n gwneud penderfyniadau, gan bwysleisio ein hymrwymiad i atebolrwydd lleol a meithrin ymddiriedaeth a hyder rhwng ein cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus."
Mae'r digwyddiad wedi ei anelu at bobl 13-24 oed a bydd yn cael ei gynnal ym Mharth Dysgu Torfaen ddydd Mercher 4 Mawrth. Bydd cyfle i westeion edrych o gwmpas stondinau asiantaethau cymorth a mwynhau lluniaeth ysgafn cyn y digwyddiad.
I gofrestru, ewch i https://bit.ly/GYQT26