Pobl ifanc yn rhoi’r sbotolau ar arweinwyr Gwent
Mae plant a phobl ifanc o bob rhan o Went wedi holi rhai o brif arweinwyr Gwent yn nigwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid blynyddol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Mae Hawl i Holi Ieuenctid Gwent yn cael ei gynnal gan aelodau Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent ac mae'n rhoi cyfle i bobl ifanc ofyn cwestiynau'n uniongyrchol i bobl sy'n gwneud penderfyniadau.
Eleni, roedd y panel yn cynnwys y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes; Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert; Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly; a'r Ymgynghorydd Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol, Jane Dickson.
Cymerodd dros 100 o bobl ifanc ran ac roedd y themâu ar gyfer y noson yn cynnwys yr argyfwng costau byw, tlodi mislif, ac ymateb yr heddlu i linellau cyffuriau.
Meddai'r Comisiynydd Plant Rocio Cifuentes: "Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych ac yn gyfle go iawn i bobl ifanc ein holi ni'n uniongyrchol am yr hyn rydyn ni'n ei wneud i wneud eu cymunedau nhw'n llefydd gwell i fyw ynddynt.
“Hoffwn ddiolch i bob un o'r bobl ifanc a ddaeth i'r digwyddiad a dangos y fath angerdd, a gofyn rhai cwestiynau anodd iawn i ni."
Sefydlwyd Hawl i Holi Ieuenctid gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert yn 2019. Dywedodd: “Mae Hawl i Holi Ieuenctid yn cael ei ysgogi a’i gynnal gan bobl ifanc. Mae'r penderfyniadau rydym yn eu gwneud fel cynrychiolwyr gwasanaethau cyhoeddus yn cael effaith uniongyrchol ar eu bywydau nhw ac mae'n iawn eu bod nhw'n cael y cyfle i'n dwyn ni i gyfrif.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad penigamp arall, a rhaid i mi ddiolch i aelodau Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent am eu gwaith caled, Coleg Gwent am gynnal y digwyddiad, a phawb a gymrodd ran ar y noson am helpu i'w wneud yn ddigwyddiad mor llwyddiannus.”