Pobl ifanc yn mwynhau haf o hwyl yng Nghwm Aber
Mae plant a phobl ifanc Cwm Aber yng Nghaerffili yn cadw’n brysur yr haf hwn gyda rhaglen o ddigwyddiadau a gynhelir gan Ganolfan Galw Heibio Ieuenctid Senghennydd (SYDIC).
Maent wedi bod yn mwynhau celf a chrefft, teithiau i feicio cwad, ymweliadau ag ystafelloedd dianc a hyd yn oed daith o amgylch stiwdios y BBC yng Nghaerdydd.
Nod y sesiynau yw ymgysylltu â phlant a phobl ifanc lleol, a rhoi gweithgareddau cadarnhaol iddynt gymryd rhan ynddynt yn ystod gwyliau’r haf. Mae hyn yn eu helpu i’w hatal rhag cael eu denu i ymddygiad gwrthgymdeithasol posibl, wrth feithrin eu sgiliau a magu eu hyder, a gwneud ffrindiau newydd.
Mae SYDIC yn cael cymorth tuag at ei wasanaethau ieuenctid gan fy nghronfa gymunedol. Cyfeirio arian a dderbynnir drwy enillion troseddau yn ôl i gymunedau yw un o'r ffyrdd rydym yn gwneud gwahaniaeth i drigolion ledled Gwent.