Pobl ifanc yn holi'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau yng Ngwent
Cafodd pobl ifanc o bob rhan o Went gyfle i holi'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau yn rhan o drydydd digwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Cynhaliwyd y digwyddiad rhithiol mewn partneriaeth â Fforwm Rhanbarthol Ieuenctid Gwent, ac ymunodd dros 100 o bobl ifanc o bum sir Gwent.
Gofynnwyd ystod eang o gwestiynau ar bynciau fel iechyd meddwl, gobeithion gyrfaoedd, digartrefedd ymysg pobl ifanc a cham-drin domestig.
Maisy Evans o Gyngor Ieuenctid Torfaen oedd yn cadeirio'r digwyddiad. Dywedodd: “Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych ac roedd llawer o bobl yn bresennol. Mae mor bwysig bod pobl ifanc yn cael gofyn y cwestiynau hyn i bobl sy'n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn.
“Gofynnodd aelodau’r gynulleidfa rai cwestiynau anodd iawn ac roeddent yn werthfawrogol iawn o'r atebion agored a thryloyw gan y panel.”
Roedd y panel yn cynnwys Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert; Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly; Dr Rhiannon Cobner, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ac Arweinydd Seicoleg Cymuned Gwent; Nicola Fitzpatrick, Pennaeth Gwasanaethau Cam-drin Domestig Llamu; ac Anita Dillon o Gyrfa Cymru.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Bydd y penderfyniadau rydym yn eu gwneud fel sefydliadau sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Ngwent yn cael effaith uniongyrchol ar blant a phobl ifanc ac mae'n iawn eu bod nhw'n cael y cyfle i'n dwyn ni i gyfrif.
"Mae'n hollbwysig bod eu barn yn cael ei hystyried ar bob cam o'r broses penderfynu ac mae'r digwyddiad hwn yn un o'r ffyrdd rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i wrando ar blant a phobl ifanc er mwyn clywed beth sydd o bwys gwirioneddol iddynt.
"Gwnaeth amrywiaeth ac aeddfedrwydd y cwestiynau a ofynnwyd a phroffesiynoldeb aelodau Fforwm Rhanbarthol Ieuenctid Gwent, a sicrhaodd bod y digwyddiad yn rhedeg yn rhwydd, argraff fawr arnaf. Hoffwn ddiolch i bawb a gymrodd ran ac a weithiodd yn galed y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant."
Ymunodd pobl ifanc o ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled Gwent yn y digwyddiad rhithiol, sydd fel arfer yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghasnewydd.
Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: "Mwynheais y digwyddiad yn fawr, diolch i ynni ac angerdd y bobl ifanc. Rhaid cynnwys ein cenhedloedd iau yn ein sgyrsiau i helpu i lunio dyfodol ar gyfer pob un ohonom; mae eu syniadau a'u pryderon yn allweddol er mwyn i ni lwyddo i wneud hyn yn iawn. Gwnaethant ofyn cwestiynau heriol ac ystyrlon ac mae eu safbwynt ffres yn helpu pob un ohonom i edrych ar faterion mewn ffordd newydd.”