Pobl ifanc yn dysgu sgiliau achub bywyd
Mae pobl ifanc ledled Gwent wedi derbyn hyfforddiant a allai eu helpu nhw i achub bywyd rhywun sydd wedi cael ei drywanu.
Derbyniodd dros 90 o bobl ifanc sesiynau hyfforddiant gan yr elusen StreetDoctors.
Gwnaethant ddysgu beth i'w wneud mewn sefyllfa argyfyngus, a sut i roi pwysau ar glwyf ac atal llif gwaed nes i gymorth meddygol gyrraedd.
Elusen genedlaethol yw StreetDoctors sy'n ceisio rhoi pobl ifanc wrth galon darpariaeth cymorth cyntaf ac sy'n eu grymuso nhw i achub bywydau yn eu cymunedau.
Meddai Katie Murray, Rheolwr Cefnogi Busnes yn StreetDoctors: "Mae llawer o bobl ifanc yn pryderu am drais ar y stryd. Mae ein gwirfoddolwyr ni'n eu helpu nhw i ddeall canlyniadau go iawn trais ac yn dysgu sgiliau achub bywyd iddyn nhw. Mae hyn yn grymuso pobl ifanc mewn ffordd wych, ynghyd â'n gwirfoddolwyr gofal iechyd ifanc sy'n darparu'r hyfforddiant.
"Mae wedi bod yn ffantastig cyflwyno ein sesiynau i bobl ifanc yng Ngwent ac rydym yn gobeithio gweithio gyda mwy o bobl ifanc ledled rhanbarth de Cymru. Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyllid a'r gefnogaeth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent."
Cymerodd pobl ifanc o Ganolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd yng Nghaerffili ran mewn sesiwn achub bywyd. Meddai uwch-weithiwr ieuenctid Matthew Thorne:
"Roedd yr hyfforddiant hwn yn werthfawr. Mae troseddau cyllyll yn achos pryder i'n pobl ifanc ac er fy mod yn gobeithio na fydd byth angen iddyn nhw ddefnyddio'r hyfforddiant hwn rwy'n falch bod ganddyn nhw sgiliau yn awr a allai helpu i achub bywydau eu ffrindiau neu deulu."
Ariannwyd y sesiynau hyn gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn rhan o raglen addysg ehangach a oedd yn canolbwyntio ar ymweliad yr Angel Cyllyll â Gwent ym mis Tachwedd 2022.
Dywedodd: "Mae troseddau cyllyll yn brin o hyd yng Ngwent, ond mae'n bwysig bod pobl ifanc yn gwybod beth i'w wneud os ydyn nhw'n rhan o ddigwyddiad neu'n dyst i ddigwyddiad.
"Mae wedi bod yn wych gweld pobl ifanc yn ymateb mor dda i'r sesiynau. Hoffwn ddiolch i'r gwirfoddolwyr o StreetDoctors am ddarparu hyfforddiant mor bwysig mewn ffordd ddifyr, llawn hwyl.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan StreetDoctors.