Pobl ifanc yn adfer canolfan gymuned
Mae tîm o bobl ifanc o Brosiect Pobl Ifanc Maendy yng Nghasnewydd wedi bod yn gweithio i adfer ystafell yn eu canolfan gymuned ar ôl iddi gael ei thargedu gan fandaliaid.
Mae'r bobl ifanc, rhwng 12 ac 16 oed, wedi bod yn paentio a phapuro'r ystafell yn Nhŷ Cymuned Maendy ar Heol Eaton yn ystod eu clwb ar ôl ysgol.
Talwyd am y gwaith adfer gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, sydd wedi rhoi’r cyllid i Brosiect Ieuenctid Maendy gynnal prosiectau ieuenctid addysgiadol a dargyfeiriol yn ystod gwyliau ysgol.
Dywedodd Zenia Hamid, gweithiwr ieuenctid arweiniol: "Mae'r bobl ifanc wedi bod yn gweithio'n galed i atgyweirio'r difrod a wnaed gan y fandaliaid hyn. Yn amlwg, roedd y fandaliaeth yn achos gofid i'n haelodau ond maen nhw wedi bod yn gadarnhaol iawn ac wedi gwneud gwaith ardderchog yn gwneud yr ystafell i edrych yn lliwgar a golau.
“Rydym ni'n ddiolchgar am y cyllid gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd sydd wedi ein galluogi ni i gynnal prosiectau ar gyfer pobl ifanc dros yr haf, ac sydd wedi golygu ein bod wedi gallu gwneud y gwaith hwn.”
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae Prosiect Ieuenctid Maendy'n gwneud gwaith dargyfeiriol pwysig gyda phobl ifanc o'r gymuned leol, yn helpu i'w cadw nhw oddi wrth drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y gwyliau ac ar ôl ysgol.
“Roedd y fandaliaeth hon yn ofnadwy ond rwyf wrth fy modd i weld sut mae'r gweithwyr prosiect wedi ei gwyrdroi i fod yn weithgarwch cadarnhaol i ymgysylltu â'r bobl ifanc maen nhw'n rhoi cymorth iddyn nhw, ac mae'r canlyniadau'n wych.”