Pobl ifanc Cwmbrân yn mynd i ryfel yn erbyn sbwriel
Mae pobl ifanc o Ganolfan Pobl Ifanc Cwmbrân wedi treulio bore yn codi sbwriel yn Llyn Cychod Cwmbrân fel rhan o'u cyfarfod cyntaf yn yr awyr agored ers dechrau'r cyfyngiadau symud ym mis Mawrth.
Sefydliad i bobl ifanc yng nghanol y dref yw Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân ac mae'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau i blant a phobl ifanc.
Yn ogystal â chasglu sbwriel, defnyddiodd y bobl ifanc y sesiwn i ddysgu am drefnu digwyddiadau, iechyd a diogelwch a gwaith tîm, gan helpu i wella eu sgiliau cyflogadwyedd.
Dywedodd Joanne Phillis, rheolwr y ganolfan: “Roedd yn wych gweld rhai o’r bobl ifanc yn gweithio gyda'i gilydd er budd y gymuned.
"Mae'r cyfyngiadau symud wedi bod yn galed i lawer o bobl ifanc ac, er na fyddwn yn gallu ail agor yn llawn am beth amser, mae sesiynau fel y rhain yn eu helpu nhw i ddatblygu eu sgiliau ac maen nhw'n llesol i'w hiechyd corfforol a meddyliol.
Mae'r ganolfan yn derbyn cyllid gan Gronfa Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar hyn o bryd i dalu gweithwyr ieuenctid i gynnal sesiynau galw heibio i bobl ifanc gyda'r nos yn ystod yr wythnos.
Ers dechrau'r cyfyngiadau symud mae'r rhan fwyaf o'r gwaith wedi digwydd ar-lein ond mae staff y ganolfan wedi cadw mewn cysylltiad â phobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaeth, yn danfon pecynnau gweithgareddau a, lle y bo angen, gliniaduron ac offer cyfrifiadur i'w cartrefi i'w helpu nhw i gwblhau eu haddysg a'u cymwysterau ar-lein.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Trwy fy Nghronfa Gymunedol yr Heddlu, rwyf yn awyddus i alluogi prosiectau sy'n caniatáu i bobl ifanc ganolbwyntio ar weithgareddau cadarnhaol, gan eu cadw nhw oddi wrth drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned ar yr un pryd.
"Gwnaeth y bobl ifanc hyn waith gwych yn codi sbwriel a dylent fod yn falch o'u gwaith caled".