Pobl ifanc Cwmbrân yn dathlu Mis Hanes Pobl Ddu
Bu pobl ifanc o Ganolfan Pobl Ifanc Cwmbrân (CCYP) yn dathlu Mis Hanes Pobl Ddu drwy gydol mis Hydref.
Dysgon nhw am bobl ddu lwyddiannus ledled Cymru, gan ysgrifennu ysgrif bortreadu ar y rhai a oedd wedi’u hysbrydoli fwyaf. Gwnaethant hefyd greu gwaith celf a fydd yn cael ei arddangos yn y ganolfan.
Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn gyfle pwysig i gydnabod y cyfraniadau y mae pobl ddu wedi’u gwneud i’r DU dros genedlaethau lawer, ac rwy’n falch o weld y bobl ifanc hyn yn ymgysylltu â’r pwnc cystal.
Ar hyn o bryd, rwy'n cefnogi CCYP drwy fy nghronfa gymunedol, gan alluogi'r ganolfan i gyflogi gweithwyr ieuenctid i gynnal sesiynau galw heibio gyda'r nos yn ystod yr wythnos i bobl ifanc.
Mae’r sesiynau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y gymuned leol, ac i fywydau llawer o bobl ifanc, a hoffwn achub ar y cyfle i ganmol tîm CCYP am eu gwaith caled.