Pobl Ifanc Brymawr Yn Lansio Wythnos Ymwybyddiaeth O Droseddau Casineb gyda Rhaglen Radio Gymunedol
Mae pobl ifanc o Frynmawr wedi lansio Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb gyda'u sioe radio eu hunain.
Ar y sioe radio, sy'n cael ei darlledu am awr ar radio cymunedol BGfm, mae chwech o bobl ifanc o Brynfarm a Coed Cae yn chwarae caneuon a siarad am eu dealltwriaeth a'u profiadau nhw o droseddau casineb.
Yn siarad ar ôl y darllediad, dywedodd rheolwr BGfm, Steve Bower, "Roeddwn wrth fy modd i gefnogi'r gweithgarwch hwn.
“Mae trosedd casineb yn drosedd gas a diangen. Mae'n gwneud i bobl deimlo bod ganddyn nhw broblem bodoli yn y gymdeithas, ond y gwir yw mai'r tramgwyddwr sydd â'r broblem go iawn."
Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yn ymgyrch genedlaethol sy'n codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb. Mae'n gyfle i gofio pobl rydym wedi eu colli, cefnogi pobl sydd angen ein cymorth parhaus ac annog gwasanaethau i weithio gyda phartneriaid allweddol a chymunedau i fynd i'r afael a phroblemau troseddau casineb lleol.
Wrth ddangos ei gefnogaeth i'r ymgyrch, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert, "Rwyf i a'm swyddfa'n cefnogi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb eleni a'i neges 'Dim lle i gasineb yn y DU'.
"Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd, rwyf am i Went fod yn rhywle mae pobl yn gallu byw, gweithio a chyfrannu at ein cymunedau heb fyw mewn ofn parhaol o brofi casineb o unrhyw fath.
"Fodd bynnag, os bydd rhywun yn dioddef trosedd casineb yng Ngwent, mae'r systemau ar waith gennym ni i roi cymorth iddyn nhw. Gall hyn fod trwy ein swyddogion cymorth troseddau casineb sydd wedi cael eu hyfforddi'n benodol neu ein partneriaid yn Connect Gwent, ein canolfan amlasiantaeth i ddioddefwyr.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, ewch i www.bit.ly/TroseddauCasinebGP .