Pobl ifanc Blaenau Gwent yn ymarfer pêl-droed gyda Cardiff City Foundation
Mae pobl ifanc o Flaenau Gwent wedi bod yn egnïol yn ystod wythnos hanner tymor yn cymryd rhan mewn gweithdai pêl-droed a thwrnamaint a drefnwyd gan hyfforddwyr a staff Cardiff City Foundation, Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent a Dyfodol Cadarnhaol.
Cyn dangos eu sgiliau mewn cyfres o dwrnameintiau pum bob ochr, cymerodd y bobl ifanc ran mewn cyfres o weithdai pêl-droed, ac ennill sgiliau hanfodol trwy gyfrwng cwrs cymorth cyntaf iechyd meddwl.
Mae Dyfodol Cadarnhaol yn rhoi cyfleoedd gwych i bobl ifanc ledled Gwent ac mae’n cael cyllid gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn rhan o ymrwymiad y Comisiynydd i gadw cymdogaethau’n ddiogel a gwella hyder y gymuned mewn plismona.
Mae’r sefydliad yn gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, timau a llysgenhadon chwaraeon, a busnesau lleol i roi cyfleoedd i bobl ifanc ehangu eu gorwelion a gwireddu eu dyheadau.
Mae gwaith partner yn rhan bwysig o’n gwaith i helpu i gyfeirio pobl ifanc oddi wrth drosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
I gael rhagor o wybodaeth:
Dyfodol Cadarnhaol: https://www.newportlive.co.uk/en/community-support/community-sport-and-wellbeing/our-projects-programmes-and-initiatives/positive-futures/
Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent:
https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/schools-learning/youth-services/byg/ neu dilynwch @BG.Youth.Service