Plant yn dysgu syrffio diolch i gronfa Uchel Siryf Gwent
Yng Ngwent, mae mwy na 100 o blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn dysgu syrffio, gyda chymorth ariannol gan Uchel Siryf Gwent.
Nod Cronfa Uchel Siryf Gwent yw darparu ansawdd bywyd gwell a mwy diogel i bobl Gwent drwy gefnogi mentrau cymunedol.
Cafodd Rewild Play £5000 gan y gronfa ac mae hwn yn cael ei ddefnyddio i gynnig gwersi syrffio i blant ag amrywiaeth o anghenion dysgu ychwanegol a'u teuluoedd.
Sefydlodd Sian Lewis-Evans Rewild Play fel elusen yn 2018 mewn ymateb i ddiffyg gwasanaethau cynhwysol i blant yn ei hardal hi. Dywedodd: "Ein nod yw darparu gwasanaeth cynhwysol a chefnogol sy'n gofalu am blant ag anghenion dysgu ychwanegol ond hefyd eu teuluoedd.
"Mae syrffio’n wych i blant, ac yn gwella eu hiechyd meddwl yn wirioneddol. Mae'n rhaid iddyn nhw glirio eu meddyliau er mwyn gallu canolbwyntio ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud sy'n lleihau straen ac yn hybu gwell cwsg. Mae hefyd yn cryfhau eu craidd ac yn gwella eu cydbwysedd, gan ei wneud yn weithgaredd ardderchog ar gyfer iechyd corfforol a meddwl.
"Mae'r arian hwn wedi’n galluogi i gynnal y sesiynau syrffio drwy gydol yr haf ac mae'r plant yn cael amser gwych yn dysgu sgiliau newydd ac yn gwneud ffrindiau yn yr awyr agored."
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cyfrannu £65,000 at y gronfa sy'n cael ei hwyluso gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Jeff Cuthbert: "Mae'n wych gweld cymaint o blant a phobl ifanc yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd ac yn cael hwyl mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
"Mae Rewild Play yn helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy diogel, ac mae'n rhaid i mi ganmol gwaith caled y gwirfoddolwyr sy'n gwneud y gwaith hwn yn bosibl."