Plant Abertyleri'n cael eu hysbrydoli gan ddawns
Mae plant a phobl ifanc Abertyleri wedi bod yn mwynhau bod yn greadigol mewn gweithdai dawns galw heibio sy'n cael eu hariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent.
Ffin Dance, cwmni dawns proffesiynol sydd wedi ei leoli yn Theatr Beaufort, Glynebwy, sy'n cynnal y sesiynau gyda'r nod o roi profiadau cadarnhaol a chreadigol i'r rhai sy'n cymryd rhan er mwyn helpu i’w harwain oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Maen nhw wedi bod yn digwydd bob pythefnos y tu allan i Sefydliad y Glowyr Llanhiledd yn rhan o sesiynau ymgysylltu â phobl ifanc sydd wedi cael eu trefnu gan yr elusen Off the Streets ym Mlaenau Gwent.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Trwy ariannu Ffin Dance rydym yn ceisio cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol i blant ym Mlaenau Gwent ac mae'n wych gweld eu bod yn ymgysylltu mor dda gyda'r sesiynau.
"Yn ogystal â chael hwyl gyda'u ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, maen nhw'n dysgu rhywbeth newydd, datblygu eu hyder a gweithio gydag oedolion sy'n esiampl gadarnhaol iddynt.
"Yn aml, plant a phobl ifanc yw'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau ac mae hyn yn gallu golygu eu bod nhw mewn perygl o ddechrau ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Pwrpas y sesiynau hyn yw cynnig rhywbeth arall iddyn nhw, a'r gobaith yw y byddwn yn gallu eu cyfeirio nhw at lwybr mwy cadarnhaol ar gyfer y dyfodol."
Mae'r gweithdai'n annog y rhai sy'n cymryd rhan i fynegi eu hunain trwy symud ac maent yn gallu cynnwys sesiynau rhyddredeg yn ogystal â dawns gyfoes.
Meddai Catrin Lewis, Cydgysylltydd Ffin Dance yn y Gymuned: "Rydym yn gwneud cynnydd go iawn gyda'r sesiynau hyn. Mae'r plant a'r bobl ifanc yn dechrau dod i'n hadnabod ni ac wrth iddyn nhw ddod yn fwy cyfforddus rydych yn gallu gweld eu bod yn dechrau mwynhau eu hunain go iawn.
"Rydym yn bwriadu mynd â nhw ar ymweliad i Theatr Beaufort yn awr a dyma fydd y tro cyntaf i rai ohonyn nhw fod mewn theatr. Yn y tymor hir byddem wrth ein boddau'n gallu gweithio gyda nhw er mwyn iddyn nhw gael cymryd rhan yn eu perfformiadau eu hunain ar y llwyfan a rhannu eu gwaith gyda rhieni, ffrindiau a'r gymuned leol.
"Ein gobaith yw y gallwn adeiladu ar eu sgiliau a'u hyder yn ystod yr wythnosau nesaf, a'u helpu nhw i ddarganfod eu gwir botensial."