Plant a phobl ifanc yn holi’r Comisiynydd

27ain Mawrth 2025

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi bod yn ateb cwestiynau plant ledled Casnewydd yn ystod cyfres o sesiynau holi ac ateb gyda disgyblion ysgolion cynradd.

Aeth plant o flynyddoedd 5 a 6 yn ysgolion cynradd Crindau, Glasllwch, Maendy a Malpas Court ati i ymchwilio i rôl y Comisiynydd cyn yr ymweliad, yn rhan o brosiect ar gyfer eu Heddlu Bach neu eu sesiynau cyngor ysgol.

Gwnaethant ofyn cwestiynau ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys rôl a chyfrifoldebau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ei blaenoriaethau ar gyfer plismona, a'i gobeithion a'i dyheadau ar gyfer y dyfodol.



Meddai Comisiynydd Mudd: “Mae ymgysylltu wyneb yn wyneb â phlant a phobl ifanc yn hollbwysig i mi. Mae'n fy helpu i ddeall pa faterion sy'n bwysig iddyn nhw.  Cefais sawl cwestiwn sy'n ysgogi meddwl gan y plant, a wnaeth i mi ystyried yn ddifrifol.

"Yn fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder newydd rwyf wedi ymrwymo i greu siarter plant a phobl ifanc a fydd yn helpu i lywio gwaith fy swyddfa yn y dyfodol. Bydd y siarter yn cael ei chynhyrchu ar y cyd gyda phlant a phobl ifanc a bydd yn dylanwadu ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu a'r prosiectau rydym yn eu comisiynu.

"Rwyf yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddechrau ar y gwaith yma yn fuan ac i weithio gyda phlant a phobl ifanc o bob rhan o Went i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau.