Plant a phobl ifanc ledled Gwent yn lansio eu Cwricwlwm am Oes
Lansiodd plant a phobl ifanc o fforwm ieuenctid rhanbarthol Gwent eu fideo Cwricwlwm am Oes ('Curriculum for Life' - C4L) yr wythnos hon o flaen gweinidogion y Cynulliad a Chomisiynydd Plant Cymru.
Roedd y digwyddiad, a gafodd ei noddi gan Hefin David AC a'i ariannu gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, yn lansiad swyddogol ar gyfer y fideo C4L sy'n dangos pobl ifanc o bob rhan o Went yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i wneud sgiliau bywyd allweddol yn rhan orfodol o'r rhaglen addysg yng Nghymru.
Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd aelodau fforwm ieuenctid rhanbarthol Gwent, Imogen ac Emily Jones, "Fel fforwm rydym yn credu ei bod yn hollbwysig bod pobl ifanc ledled Gwent yn dysgu'r sgiliau bywyd hanfodol sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau llwyddiannus.
" Mae cael y cyfle i gyflwyno’r fideo hwn i'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau yma ym Mae Caerdydd yn rhoi sicrwydd i ni fod ein llais yn cael ei glywed ac y gallwn wneud gwahaniaeth gyda'n gilydd."
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert "Mae'n bleser ariannu lansiad fideo C4L.
Mae rhoi cyfle i bobl ifanc leisio'u barn yn hollbwysig wrth sicrhau ein bod yn datblygu gwasanaethau cyhoeddus sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gobeithio bod y digwyddiad lansio hwn wedi rhoi'r cyfle hwnnw i bobl ifanc Gwent."
Pleidleisiodd fforwm ieuenctid rhanbarthol Gwent i wneud pwnc C4L yn flaenoriaeth y llynedd yn dilyn pleidlais 'Gwneud Eich Marc'. Pleidlais ymysg pobl ifanc yn rhoi cyfle iddynt leisio barn ar yr hyn sy'n cael ei drafod ar feinciau gwyrdd Tŷ'r Cyffredin, gan aelodau'r Senedd Ieuenctid.
I weld y fideo Cwricwlwm am Oes, ewch i https://www.youtube.com/watch?v=1hcD1SmVjNE.