Penodiad i fwrdd y Coleg Plismona
4ydd Ebrill 2023
Rwyf wrth fy modd i fod wedi cael fy mhenodi i fwrdd y Coleg Plismona.
Corff proffesiynol yw'r Coleg Plismona sy'n gyfrifol am bennu'r safonau ar gyfer plismona, cefnogi datblygiad proffesiynol swyddogion a staff, a datblygu a rhannu gwybodaeth ac arfer da.
Yn fy rôl fel cyfarwyddwr anweithredol, byddaf yn helpu i oruchwylio a chraffu ar ei waith. Fel cyn Weinidog Llywodraeth Cymru dros sgiliau a thechnoleg, rwyf yn frwd dros y meysydd gwaith hyn ac yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr a chwarae rhan yn natblygiad plismona yn y DU ar gyfer y dyfodol.