Penodi ymgynghorwyr VAWDASV cenedlaethol
Rwy’n croesawu penodiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru i swydd Ymgynghorydd Cenedlaethol Trais yn Erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV).
Mae gan y penodai newydd Johanna Robinson dros 25 mlynedd o brofiad o weithio mewn swyddi cyfiawnder cymdeithasol, gan gynnwys sawl blwyddyn fel pennaeth strategaeth yn fy swyddfa fy hun ac yn arwain hwb dioddefwyr Heddlu Gwent, Connect Gwent, cyn hynny.
Gallaf ardystio’n bersonol i’w gwaith caled, penderfyniad ac angerdd i sicrhau bod dioddefwyr troseddau yn derbyn y gwasanaethau gorau posibl i’w helpu ar eu taith cyfiawnder troseddol a symud ymlaen gyda’u bywydau. Bydd ei hangerdd ac ehangder ei gwybodaeth yn gaffaeliad enfawr i Lywodraeth Cymru.
Bydd hi’n rhannu’r swydd ag Yasmin Khan sydd wedi bod yn ymgynghorydd am y pedair blynedd diwethaf ac wedi’i hailbenodi am dymor arall.
Ni allech chi fod â dau hyrwyddwr gwell dros ddioddefwyr y troseddau erchyll hyn, ac rwy’n ffyddiog y byddan nhw ar y cyd yn sicrhau bod llais y dioddefwr yn parhau i fod yn ganolog i brosesau gwneud penderfyniadau y llywodraeth yng Nghymru.
Mae’n rhaid i mi ddiolch hefyd i Nazir Afzal OBE sy’n dod i ddiwedd ei dymor yn ymgynghorydd cenedlaethol ym mis Gorffennaf am ei gyfraniad i’r swydd ers 2018.