Pêl-droed yn dod â chymunedau ffoaduriaid at ei gilydd
Mae The Sanctuary, prosiect sy'n cael ei redeg gan yr elusen The Gap Wales, yn gweithio gydag ymgyrch Dyfodol Cadarnhaol Casnewydd Fyw i gynnal sesiynau pêl-droed wythnosol i ffoaduriaid ifanc yn y ddinas.
Mae Casnewydd yn gartref i ryw draean o ffoaduriaid sy'n blant ar eu pen eu hunain Cymru, sy'n gallu bod yn agored i gam-fanteisio gan gangiau troseddol oherwydd diffyg iaith a dealltwriaeth ddiwylliannol.
Meddai Stephane Nzouekon, gweithiwr cefnogi ffoaduriaid yn The Sanctuary: "Mae'r sesiynau hyn yn dda ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol y bobl ifanc, ond yn bwysicach na dim mae pêl-droed yn dod a nhw at ei gilydd fel cymuned.
"Pan fyddan nhw wedi ymlacio ac yn mwynhau'r chwaraeon maen nhw'n fwy agored ac rydym yn cael cyfle i siarad am y pethau eraill sy’n digwydd yn eu bywydau, fel chwilio am waith neu broblemau gyda llety. Dyma un yn unig o'r ffyrdd rydym yn cefnogi'r bobl ifanc hyn i fyw bywydau hapusach ac iachach a dod yn rhan o'r gymuned ehangach."
Mae'r ddau brosiect yn derbyn cyllid gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn rhan o ymrwymiad y Comisiynydd i ddiogelu a chefnogi pobl ifanc agored i niwed yng Ngwent.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Dyma rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned, llawer ohonynt wedi dianc o wledydd wedi’u rhwygo gan ryfel, neu wedi cael eu masnachu i'r DU i gael eu hecsbloetio gan gangiau troseddol.
“Trwy gynnig cyfleoedd iddyn nhw gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau eraill, nid yn unig rydym o bosib yn eu hatal nhw rhag ymwneud â throsedd, mae hefyd yn helpu eu lles corfforol a meddyliol, ac yn eu helpu nhw i integreiddio gyda thrigolion lleol, gan adeiladu cymuned fwy cynhwysol yn y ddinas.”