Partneriaid adeiladu'n ysbrydoli pobl ifanc

21ain Chwefror 2025

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd wedi rhoi cymorth i bartneriaid adeiladu Willmott Dixon mewn diwrnod prentisiaethau ar gyfer disgyblion blwyddyn 11 yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr yng Nglynebwy.

Cafodd disgyblion gyngor a gwybodaeth am yr amrywiaeth eang o gyfleoedd am swyddi a phrentisiaethau sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu. Cawsant gyfle hefyd i edrych ar efelychiad 3D o rai o brosiectau presennol Willmott Dixon.

Willmott Dixon adeiladodd adeilad newydd Heddlu Gwent yn Y Fenni, sy'n gartref i dimau cymdogaeth ac ymateb yr ardal ac a agorwyd yn swyddogol ym mis Rhagfyr 2024. Mae ymweliadau addysgol fel y rhain yn un o'r ffyrdd mae'r cwmni'n ceisio cyfrannu at y cymunedau mae'n gweithio ynddynt.